top of page
DJI_0570_edited_edited_edited.jpg

Croeso i Sawna Bach®

Rydym yn fusnes teuluol bach sy'n dod â diwylliant sawna i Ogledd Cymru. Dechreuodd y cyfan gydag agor ein sawna traeth cyntaf ym Mhorth Tyn Tywyn ar Ynys Môn yn 2023. Mae Sawna Bach® wedi dod yn rhan o'r gymuned leol yn gyflym. Rydym yn falch iawn o weithredu sawna arall yn y mynyddoedd erbyn hyn,  ar lannau Llyn Padarn ger Amgueddfa Lechi Cymru ym mhentref poblogaidd Llanberis.

Amseroedd Agor 

 

Porth Tyn Tywyn, Ynys Mon: Dydd Iau - Dydd Sul: 9yb-9yp

 

Llyn Padarn, Llanberis: Dydd Sadwrn - Dydd Mawrth: 9yb-8yp

 

* Dyddiau ychwanegol yn ystod gwyliau'r ysgol a gwyliau banc

DJI_0807_edited.jpg

Chwysu. Chwerthin. Cymuned. Sweat. Share. Laugh.

Camwch i mewn i'n sawnas pren a phrofi cysylltiad gwirioneddol â natur. P'un a ydych chi yn ein sawna traeth ar lannau godidog Porth Tyn Tywyn yn Ynys Môn, neu'n ymlacio yn ein sawna ar lan  Llyn Padarn yn Llanberis, wedi'ch amgylchynu gan fynyddoedd mawreddog, fe welwch y lleoliad perffaith i ymlacio.

 

Chwyswch y straen i ffwrdd, rhannwch eiliadau bythgofiadwy gyda ffrindiau wrth i harddwch Gogledd Cymru ddatblygu o'ch cwmpas, a chwerthin wrth i chi deimlo'n fwy cysylltiedig — â natur, ag eraill, ac â chi'ch hun. Boed law neu hindda, mae ein sawnas yn eich gwahodd i chwyddo allan o brysurdeb bywyd, gan gynnig lle i ailgysylltu â'ch meddwl, eich corff a'ch enaid.

Llwyddais i gael lle ar y funud olaf ac rwy’n falch iawn fy mod i wedi gwneud! Byddaf yn sicr yn dod yn ôl. Roedd popeth yn lân ac roedd y staff yn gyfeillgar. Efallai y byddaf yn archebu sesiwn hirach na 50 munud y tro nesaf er mwyn cael mwy o amser ar gyfer dipiau yn y môr a dychwelyd i’r sawna.

John N

Rwy’n caru’r lle hwn, mae’r lle mor hamddenol, mae’r holl staff yn wybodus am fanteision y sawna ac yn gallu rhoi cyngor ar y llanw lleol. Lle gwych iawn, byddwn yn sicr yn ei argymell 👍👍👍

Deirdre M

Dyma oedd fy ymweliad cyntaf â Sawna Bach ar ôl i rywun ei argymell. Cefais brofiad hyfryd, roedd y tywydd yn berffaith ac mae’r agosrwydd i’r traeth yn rhagorol. Rwy’n argymell Sawna Bach yn llwyr.

Jeanette B

Dyma fy pumed ymweliad â Sawna Bach, ac mae pob tro wedi fy ngadael wedi ymlacioi ac wedi fy adnewyddu. Roedd Tom, ein gwesteiwr, yn hyfryd ac wedi gwneud i ni deimlo croeso mawr. Mae’r golygfeydd syfrdanol a’r traeth godidog yn syfrdanu.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Yn ein lleoliadau sawna, Porth Tyn Tywyn ar Ynys Môn, a Llyn Padarn yn Llanberis, rydym yn cynnig sesiynau preifat a Sesiynau sawna a rennir. Weithiau byddwn yn cynnal digwyddiadau arbennig fel sesiynau sawna lleuad llawn, sesiynau ioga a sawna neu sesiynau sawna siarad Cymraeg. Edrychwch ar ein tudalennau archebu ar gyfer Porth Tyn Tywyn (Ynys Môn) a Llyn Padarn (Llanberis) i ddysgu mwy.

Katherine Uxbridge Sauna Bach-10.jpg

Sesiwn Breifat 50mun / 80mun
£85 / £110 cynnwys TAW hyd at 8 o bobl

Archebwch y sawna cyfan i chi’ch hun neu ar ran eich grwp. Dim ond pobl rydych chi’n eu gwahodd fydd yn ymuno a’r sesiwn hon. Gallwch ddewis sesiwn  rhwng 50 ac  80 munud o hyd - gan gynnwys amser i newid. Rydym yn caniatau uchafswm o 8 o bobl i eistedd yn y sawna gyda ei gilydd, gallwch ychwanegu mwy nag 8 o o bobl at eich archeb am gost ychwanegol, cysylltwch a ni os hoffech wneud hynny. Os ydych yn archebu ar ran eich grwp, mae angen i chi sicrhau bod pawb wedi darllen a chytuno a’r ffurflen 'waiver'. Mae angen i bawb yn y grwp fod yn 16 oed o leiaf i ddefnyddio’r sawna. 

sawna cymru, sawna gogledd cymru

Sesiwn i’w rhannu 50mun / 80 mun £17 y person gan gynnwys TAW.

Mae sesiwn a rennir neu gymunedol yn golygu y gall eraill rannu'r sawna hedo chi. Dewisiwch y nifer o seddi yr hoffech eu cadw. Byddwch yn gallu dewis cymaint o seddi ag y mae lleoedd ar gael, felly os mai dim ond 1 y gallwch ddewis, mae’n golygu eich bod yn archebu’r sedd olaf. Rydym yn caniatau i uchafswm o 6 o bobl mewn sesiwn gymunedol i roi ychydig mwy o le i bawb. Gallwch ddewis rhwng 50 munud ac 80 munud o hyd, gan gynnwys amser i newid cyn ac ar ol hynny. Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hyn i fynychu sesiwn sy'n cael ei rhannu. 

 

Rydym bellach yn cynnig pass sawna gyda gostyngiad o hyd at 30% ar ein sesiynau i’w rhannu. 

Archebu Ynys Môn
Archebu Llanberis

Cysylltwch gyda ni!

bottom of page