
Aelodaeth Lleol
Mae ein aelodaeth lleol yn berffaith ar gyfer ymwelwyr rheolaidd sydd eisiau mwy o hyblygrwydd. Am £15 y flwyddyn, byddwch yn derbyn 10% oddi ar ein holl sesiynau sawna a rennir, gan gynnwys sesiynau lleuad llawn arbennig neu sesiynau Sgwrs yn y sawna yr yr iaith Gymraeg.
Dyma'r opsiwn delfrydol os ydych chi'n ymweld unwaith y mis neu'n amlach. Os ydych chi'n dod ddwywaith y mis neu'n amlach, sgroliwch ymhellach i lawr i edrych ar ein Pass Sawna am hyd yn oed mwy o arbedion.
Noder bod rhaid i bob person gael ei aelodaeth ei hun – nid yw'n bosib ei drosglwyddo.
Pass Sawna
Rydym yn cynnig ‘Pass Sawna’ 5x a 10x i wneud ein sesiynau a rennir yn fwy fforddiadwy i'n cwsmeriaid rheolaidd. Gallwch brynu eich ‘Pass Sawna’ isod. Unwaith y byddwn yn derbyn y taliad gallwch ddefnyddio y pass ar unwaith. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Sylwer:
Mae ein tocynnau sawna yn ddilys ar gyfer ein dau leoliad, Porth Tyn Tywyn a Llyn Padarn
-
Mae'r tocyn sawna yn cael ei gyhoeddi'n unigryw i chi ac ni ddylid ei drosglwyddo i berson arall.
-
Os oes angen i chi ganslo sesiwn a brynoch gyda'ch tocyn sawna, mae'r un polisi ad-dalu a chanslo yn berthnasol a'n harchebion arferol.
-
Gallwch ddychwelyd eich tocyn 48 awr cyn ei ddyddiad cychwyn. Bydd ffi o £2 yn berthnasol i roi ad-daliad.
-
Os ydych wedi dechrau defnyddio'ch pas, mae'n ddrwg gennym na allwn gynnig ad-daliad. Efallai y byddwn yn ystyried ymestyn y cyfnod dilysrwydd mewn amgylchiadau eithriadol yn ôl ein disgresiwn.
-
Gallwch ddefnyddio eich tocyn ar ein Sesiynau Lleuad Llawn a digwyddiadau eraill


