Ymdrochi mewn Sawna gyda Phlant
Rydym yn hynod gyffrous ac yn hapus i groesawu plant i Sawna Bach! Mae gennym blant ein hunain ac rydym yn credu’n wirioneddol y dylai sawna fod ar gael i bawb. Darllenwch y dudalen hon yn ofalus a dilynwch yr arweiniad os hoffech ddod â phlant gyda chi. Gall y sawna fod yn brofiad pleserus a chysurus i blant, os cadwir rhai rheolau sylfaenol mewn cof.
-
Ni ddylid byth adael plant heb oruchwyliaeth.
-
Mae’n hollbwysig bod oedolyn cyfrifol yn cadw golwg ar sut mae corff plentyn yn ymateb i’r tymereddau uchel ac yn ymwybodol o arwyddion o anghysur fel pendro, cur pen neu deimlo’n rhy boeth.
-
Yn ogystal, mae’r stôf yn boeth iawn ac yn gallu achosi llosgiadau difrifol pe baent yn ei chyffwrdd neu’n disgyn yn ei herbyn.
-
Fel rheol — po fengaf y plentyn, y mwyaf gofalus mae’n rhaid i’r oedolyn fod.
A yw’n ddiogel i fy mhlentyn gael sawna?
-
Yndi! Fodd bynnag, mae’n bwysig bod yn ymwybodol nad yw plant iau yn goddef gwres cystal ag oedolion am nad yw eu systemau thermoreolaidd a chylchrediad wedi datblygu’n llawn. Er enghraifft, dydyn nhw ddim yn chwysu fel oedolion. Gall plant bach (dan 5 oed) brofi cynnydd sydyn yn eu curiad calon. Mae’r effaith yma’n lleihau dros 7 oed. Hefyd, gall newidiadau yn y pwysedd gwaed wrth oeri rhwng neu ar ôl troeon sawna achosi i blant deimlo’n bendro neu’n ansicr ar eu traed.
-
Er nad yw’r effeithiau hyn yn beryglus mewn plant iach, mae’n bwysig monitro eich plentyn drwy’r amser y tu mewn a thu allan i’r sawna ac edrych am arwyddion o anghysur. Cofiwch fod plant ifanc efallai ddim yn gallu dweud wrthych sut maen nhw’n teimlo.
-
Mae rhan fwyaf o blant yn dweud eu bod yn mwynhau sawna’n fawr iawn.
-
Byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen 'waiver' wrth gyrraedd y sawna i gadarnhau eich bod wedi darllen ac yn deall yr arweiniad yma ar ddod â phlant i’r sawna, ac eich bod yn cymryd cyfrifoldeb llwyr amdanyn nhw tra ar y safle.
Sylwch, mae gan y staff yr hawl i derfynu’r sesiwn yn gynnar os ydyn nhw’n teimlo bod Iechyd a Diogelwch y plentyn neu unrhyw un sy’n mynychu’r sesiwn yn cael ei beryglu, ac ni fydd ad-daliad yn cael ei gynnig yn yr achos hwn.
Rheolau Archebu
-
Sesiynau preifat yn unig y gall plant fynychu.
-
Cymhareb 1:1 oedolyn i blentyn ar gyfer pob plentyn dan 16 oed.
-
Dim ond 1 plentyn 7 oed neu iau a ganiateir fesul archeb.
-
Pan fydd plant yn bresennol, uchafswm maint y grŵp yw 6.
Rheolau Ymweld
-
Am resymau yswiriant, nid oes hawl gan blant ddefnyddio’r cawodydd dŵr oer. Fodd bynnag, bydd dŵr ar gael i’w dasgu ar yr wyneb a’r corff i helpu oeri.
-
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy’r amser; mae hyn yn berthnasol tu mewn a thu allan i’r sawna. Gall y maes parcio fod yn brysur iawn ar adegau a gall plant fynd ar goll yn y twyni wrth gerdded i lawr at y môr ar eu pennau eu hunain.
-
Nid oes hawl i blant ychwanegu dŵr at y stôf oherwydd y risg o gael eu llosgi gan y stêm sy’n codi.
-
Gofynnwn i blant beidio â rhedeg y tu mewn i’r sawna a’r ardal newid.
-
Rhaid i’r oedolyn cyfrifol gadw llygad yn barhaus ar y plentyn a sut mae ei gorff yn ymateb. Os gwelir unrhyw arwydd o anghysur, rhaid i’r plentyn a’r oedolyn adael y sawna ar unwaith.
-
Peidiwch â dod â phlant i’r sawna os oes ganddyn nhw haint neu dwymyn.
Argymhellion
-
Dylai plant gamu allan, defnyddio’r dŵr a ddarperir i dasgu eu hwyneb a’u corff neu eistedd yn y bath dŵr (plant bach yn unig), i helpu oeri.
-
Dylid annog plant i yfed digon o ddŵr neu sudd yn ystod y sesiwn.
-
Yn ystod eu hymweliad cyntaf, dylai plant gyfyngu’u hamser yn y sawna i 2–5 munud a chymryd seibiannau rheolaidd. Gellir cynyddu hyn yn raddol mewn sesiynau dilynol.
-
Dylai plant llai eistedd ar y meinciau is ac, os oes modd, i ffwrdd o’r stôf. Mae’r cerrig a’r simnai’n hynod o boeth ac yn gallu achosi llosgiadau difrifol pe baent yn cael eu cyffwrdd.
-
Dylid annog plant i wisgo het sawna i leihau’r siawns o orboethi.


